John Cale
Fear Is A Man's Best Friend - John Cale

Lyrics

Ar Lan y Môr

Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.

Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.

Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rinweddau
Ar lan y môr mae nghariad innau.

Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira
Oer yw'r ty heb dân yn y gaeaf
Oer yw'r eglwys heb ddim ffeirad
Oer wyf innau heb fy nghariad.

Llawn yw'r môr o swnd a chegryn
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne

About this song

John Cale performing Ar Lan y Môr

Cale sings this Welsh traditional folk song in the Dal: Yma/Nawr (Still: Here/Now) movie.



© 1999- Hans Werksman